English

Cofrestru Cyfieithydd

Diolch am eich diddordeb mewn bod yn gyfieithydd llawrydd.  Mae WITS yn bartneriaeth rhwng mwy na 30 o gyrff sector cyhoeddus ledled Cymru. Fel cyfieithydd llawrydd cewch y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau gan gynnwys gydag Awdurdodau Lleol, y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu.

Mae WITS yn croesawu ceisiadau cofrestru newydd gan gyfieithwyr unrhyw iaith ac yn gallu eich helpu drwy’r broses gofrestru a’r safonau fetio gofynnol.

Ystyrir ceisiadau cofrestru yn seiliedig ar sawl maen prawf, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Ieithoedd sy’n cael eu siarad
  • Lleoliad presennol
  • Profiad blaenorol
  • Cymwysterau perthnasol
  • Eich argaeledd
  • Fetio

Yn ystod y broses gofrestru, dylech ond nodi ieithoedd yr ydych yn fedrus ynddynt ac y gallwch eu cyfieithu i safon broffesiynol.

Byddem yn tybio bob tro bod gan yr ymgeisydd afael da ar y Saesneg i safon cyfieithu proffesiynl, oherwydd hon fydd un ai iaith darged neu iaith ffynhonnell unrhyw aseiniad.

Mae’r holl gyfieithwyr sy’n gofyn am gofrestru eu gwasanaethau gyda WITS, yn gwneud hynny ar y sail eu bod yn gyfieithwyr llawrydd, yn hunangyflogedig, ac yn gyfrifol am ddatgan unrhyw enillion gyda’r awdurdodau priodol, h.y. CThEM trwy hunan-asesiadau. Nid yw WITS yn gwneud unrhyw ymroddiadau ar gyfer cyfraniadau Treth Incwm nac Yswiriant Gwladol.

Ni all GCC warantu nifer penodol o aseiniadau neu nifer yr oriau am unrhyw gyfnod. Mae nifer yr aseiniadau’n dibynnu ar sawl ffactor, er enghraifft ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Galw
  • Eich argaeledd
  • Meini prawf aseiniad

Byddwch yn cysylltu â chi pan fydd angen eich gwasanaethau.

Drwy gofrestru fel hyn, byddwch yn cofrestru gyda Matrix CDL Ltd, ein gweinyddwr gweithwyr asiantaeth, sy’n trefnu i dalu am yr aseiniadau a gwblhawyd ar gyfer ein holl gyfieithwyr llawrydd a fetio diogelwch hyd at ddatgeliad manylach y gwasanaeth datgelu a gwahardd.

Os ydych yn dymuno cofrestru fel cyfieithydd llawrydd hunangyflogedig, cwblhewch y ffurflen gofrestru isod.

Cofion gorau,

Tîm Gwasanaeth Cyfieithu Cymru

    Gwybodaeth gyffredinol

    Proses Archwilio Cefndir

    Bydd bob dehonglwr ar y gofrestr WITS yn destun proses archwilio cefndir un ai i safon DBS Manwl neu NPPV Lefel 3 (Archwilio Cefndir Personél Heddlu Cenedlaethol Lefel 3). Mae cliriad lefel DBS Manwl yn caniatáu i’n dehonglwyr gael eu penodi i waith Bwrdd Iechyd ac Awdurdod Lleol. Mae’r cliriad Lefel 3 NPPV yn cael ei archwilio ar lefel uwch sy’n caniatáu i ddehonglwyr gael eu penodi i waith y sector cyfiawnder troseddol. Byddwn yn cyflawni’r gwaith archwilio cefndir angenrheidiol ar ôl derbyn eich cais. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch ar ôl i’ch cais gael ei dderbyn.

    OesNac oes

    OesNac oes


    Sgiliau Ieithyddol

    Bydd y rhan hon yn ein helpu ni i adnabod eich sgiliau ieithyddol a’ch profiad yn siarad yn eich iaith/ieithoedd yn broffesiynol ac yn bersonol.

    Gallwch nodi hyd at 4 iaith.

    Ychydig neu ddim profiad (O dan 50 awr)Ychydig o brofiad (50-100 awr)Profiad helaeth (Dros 100 awr)Gyda chymhwyster proffesiynol mewn IeithoeddGyda Diploma mewn Dehongli i’r Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI) mewn iaith neu wedi cofrestru â NRPSI

    Ychydig neu ddim profiad (O dan 50 awr)Ychydig o brofiad (50-100 awr)Profiad helaeth (Dros 100 awr)Gyda chymhwyster proffesiynol mewn IeithoeddGyda Diploma mewn Dehongli i’r Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI) mewn iaith neu wedi cofrestru â NRPSI

    Ychydig neu ddim profiad (O dan 50 awr)Ychydig o brofiad (50-100 awr)Profiad helaeth (Dros 100 awr)Gyda chymhwyster proffesiynol mewn IeithoeddGyda Diploma mewn Dehongli i’r Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI) mewn iaith neu wedi cofrestru â NRPSI

    Ychydig neu ddim profiad (O dan 50 awr)Ychydig o brofiad (50-100 awr)Profiad helaeth (Dros 100 awr)Gyda chymhwyster proffesiynol mewn IeithoeddGyda Diploma mewn Dehongli i’r Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI) mewn iaith neu wedi cofrestru â NRPSI


    Argaeledd Gwaith

    Bydd y rhan hon yn ein helpu ni i adnabod yr amseroedd yr ydych ar gael a’r sectorau yr ydych eisiau gweithio ynddynt. Efallai bod sectorau nad ydych eisiau gweithio ynddynt, neu efallai y bydd amseroedd o’r dydd pan nad ydych yn gallu gweithio oherwydd ymrwymiadau eraill.

    CyfreithiolIechydAwdurdodau Lleol

    Rhowch wybod os ydych ar gael i weithio isod.

    YesNa

    IeNa

    IeNa

    IeNa

    IeNa

    IeNa

    IeNa

    IeNa

    Rhowch wybod am yr holl leoliadau y mae gennych ddiddordeb mewn gweithio ynddynt.

    IeNa

    IeNa

    IeNa

    IeNa

    IeNa

    IeNa


    Cod Ymddygiad Dehonglwyr a Chyfieithwyr

    Mae “Dehonglwr” yn golygu cyfieithwyr a dehonglwyr.
    “Partner” yw’r sefydliad gwasanaeth cyhoeddus sy’n comisiynu’r gwaith.

    1. Cywirdeb

    1.1. Byddwch yn cyfieithu’n wir ac yn gywir yr hyn sy’n cael ei ddweud, heb ychwanegu, dileu neu newid unrhyw beth. (Gellid rhoi crynhoad ond dim ond ar gais y Partner.)
    1.2. Byddwch yn sicrhau eich bod chi’n deall gweithdrefnau perthnasol y sefydliad proffesiynol yr ydych yn gweithio iddo, gan gynnwys unrhyw derminoleg arbennig.
    1.3. Byddwch ond yn derbyn gwaith yr ydych yn credu bod gennych y cymhwysedd o ran ieithwedd a gwybodaeth arbenigol i’w wneud.
    1.4. Byddwch yn ceisio creu gwaith o’r safon uchaf, ac yn rhoi gwybod i GCC neu’r Partner am unrhyw beth all effeithio ar safon eich gwaith.

    2. Cymhwysedd

    2.1. Rhaid i chi feddu ar y wybodaeth ddiweddaraf yn eich maes, gan gynnwys unrhyw ganllawiau perthnasol. Rhaid i chi ddefnyddio’r wybodaeth honno yn eich gwaith dehongli / cyfieithu lle y bo’n briodol.
    2.2. Dylech fabwysiadu dealltwriaeth i ddatblygu eich sgiliau a manteisio ar gyfleoedd addysgol perthnasol (CPD*) i wella ac ennill sgiliau/cymwysterau ychwanegol.
    2.3. Os bydd eich diffyg gwybodaeth yn effeithio’n sylweddol ar eich gwaith, byddwch yn rhoi gwybod i’r partïon perthnasol ac yn tynnu’n ôl.
    2.4. Byddwch yn rhoi gwybod am unrhyw anawsterau yr ydych yn dod ar eu traws o ran tafodieithoedd neu dermau technegol, ac os nad oes modd datrys y problemau, dylid tynnu’n ôl o’r gwaith.

    *Ar eich traul eich hun

    3. Cyfrinachedd

    3.1. Caiff unrhyw wybodaeth a gewch trwy GCC drwy waith ei thrin yn gyfrinachol ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), gan sicrhau diogelwch a chyfrinachedd y wybodaeth / data a broseswch ar ran Partneriaid GCC.
    3.2. Ni ddylid datgelu gwybodaeth / data i drydydd parti oni bai eich bod yn cael cyfarwyddiadau gan y Partner neu GCC i wneud hynny a dim ond os byddai’r datgeliad hynny’n unol â’r gyfraith. Bydd hyn hefyd yn cynnwys arferion gwaith, rhestrau cleientiaid, cyfrinachau masnachol a phrosesau manwerthu a thechnolegol.
    3.3. Bydd unrhyw ymgynghoriadau angenrheidiol i gyflawni eich dyletswyddau’n cael eu cynnal mewn modd i sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei ddiogelu.
    3.4. Ni fyddwch yn manteisio ar wybodaeth a gasglwyd yn ystod neu o ganlyniad i’ch gwaith nawr neu yn y dyfodol.
    3.5. Ni fydd cyfrinachedd yn berthnasol os oes rhaid datgelu yn ôl y gyfraith.

    4. Amhleidioldeb

    4.1. Mae’n rhaid i chi ymddwyn yn amhleidiol a pheidio ag ymddwyn mewn unrhyw ffordd all arwain at ragfarn neu flaenoriaeth ar sail crefydd neu gred, hil, gwleidyddiaeth neu rywedd oni bai na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni eich dyletswyddau fel dehonglwr.
    4.2. Byddwch yn datgelu i’r Partner a GCC unrhyw ffactor all gyfaddawdu eich amhleidioldeb yn syth. (Gan gynnwys unrhyw fuddion ariannol neu eraill all fod yn berthnasol i’r gwaith a gomisiynwyd.)
    4.3. Ni fyddwch yn mynd i mewn i drafodaeth, yn rhoi cyngor na’n datgan barn neu’n ymateb i unrhyw un o’r partïon sy’n mynd y tu hwnt i’ch dyletswydd fel cyfieithydd.
    4.4. Ni fyddwch yn rhannu / cyfnewid unrhyw wybodaeth bersonol, gan gynnwys gwybodaeth gyswllt, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gyda’r defnyddiwr gwasanaeth.

    5. Gwrthdaro Buddiannau

    5.1 Byddwch yn datgelu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu unrhyw ffactor all ei gwneud hi’n amhriodol i dderbyn gwaith mewn achos penodol.
    5.2. Os ydych yn gweithio yn y system gyfreithiol, mae’n rhaid i chi ddatgelu ar y dechrau unrhyw ymyrraeth flaenorol yn yr un mater.
    5.3. Byddwch yn datgelu’n syth os ydych chi’n perthyn neu’n adnabod y cyfwelai, neu ei deulu uniongyrchol.

    6. Ymyriadau

    6.1. Ni fyddwch yn tarfu, yn cymryd seibiant neu’n ymyrryd oni bai:
    6.2. I ofyn am eglurhad; neu
    6.3. I nodi nad oes un o’r partïon wedi deall unrhyw beth yr ydych chi’n credu sydd wedi’i dybio gan y parti arall; neu
    6.4. I roi gwybod i bartïon am atgyfeiriad neu ddylanwad diwylliannol posibl a gollwyd; neu
    6.5. I roi gwybod am gyflwr neu ffactor all effeithio ar y broses ddehongli (lle mae pobl yn eistedd, gwelededd, clywededd, toriadau anaddas ac ati)

    7. Dehongli

    7.1. Teithio – Gallwch hawlio ad-daliad am unrhyw gostau teithio gwirioneddol, cyhyd â’ch bod yn defnyddio’r dull teithio mwyaf cost effeithiol i’r lleoliad dehongli ac yn ôl. Ni ad-delir costau tacsis oni bai nad oes unrhyw ddulliau teithio amgen ar gael neu fod angen bod yn y lleoliad ar frys. Cysylltwch â chynrychiolydd y Partner ymlaen llaw i gael caniatâd. Os nad yw hyn yn bosib, cysylltwch â GCC.
    7.2. Bwyd a Diod – gallwch hawlio ad-daliad am gostau bwyd a diod os yw’r amser teithio a dehongli yn fwy na 5 awr. Ad-delir hyd at £10.
    7.3. Llety – Gallwch gael ad-daliad am gostau llety os yw’r sesiwn yn mynd heibio 10pm a bod eich amser siwrne yn fwy yna 90 munud. Cysylltwch â chynrychiolydd y Partner ymlaen llaw i gael caniatâd. Os nad yw hyn yn bosib, cysylltwch â GCC. Ad-delir hyd at £70 oni bai y nodir yn wahanol gan gynrychiolydd y Partner.
    7.4. Aseiniadau o bell h.y. galwadau ffôn / fideo – Pan fydd aseiniadau'n cael eu cynnal drwy alwadau ffôn / fideo trwy ba bynnag lwyfan y mae'r cleient yn ei benderfynu, mae'n ofynnol i chi sicrhau eich bod mewn amgylchedd addas i gynnal cyfrinachedd, dealltwriaeth a chyfathrebu clir, a bod gennych signal/WiFi cryf a dibynadwy.
    7.5. Cyrraedd yn hwyr – Os bydd dehonglwr yn hwyr i sesiwn, dylai’r dehonglwr gysylltu â chynrychiolydd y Partner. Os nad yw hyn yn bosib, cysylltwch â GCC. Os yw’r cyfnod amser yn dderbyniol i’r partner, bydd yr apwyntiad yn mynd rhagddo yn ôl yr arfer. Os nad yw’r cyfnod yn dderbyniol am unrhyw reswm, ni chaiff y dehonglwr ei dalu. Bydd GCC yn rhoi gwybod i’r dehonglwr.
    7.6. Os bydd cynrychiolydd y Partner yn hwyr, dylai dehonglwyr gysylltu â chynrychiolydd y Partner. Os nad yw hyn yn bosib, cysylltwch â GCC. Os nad ellir cysylltu, bydd y dehonglwr yn aros 30 munud. Os bydd y cynrychiolydd wedi cyrraedd ar ôl 30 munud ac na ellir cael gafael arno, unai trwy gysylltu â’r cynrychiolydd yn uniongyrchol neu trwy GCC, gall y dehonglwr adael.

    8. Darparu dirprwy

    8.1. Mae dehonglwyr / cyfieithwyr yn gallu enwebu dirprwy os caiff y meini prawf isod eu diwallu:
    8.2. Mae eich dehonglwr enwebedig yn gymwys yn yr iaith ofynnol ac i'r un lefel â chi neu uwch.
    8.3. Mae eich dehonglwr enwebedig wedi cael ei archwilio i’r un lefel â chi neu uwch.
    8.4. Rydych yn derbyn cyfrifoldeb i sicrhau cywirdeb gwaith eich dehonglwr enwebedig a byddwch mewn sefyllfa i gywiro methiannau os oes angen*
    8.5. Mae hyn yn gorfod cael ei chadw at mewn pob achos ble mae gofynion arbennig yn cael ei ofyn e.e. rhyw gyfieithydd.
    8.6. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Corff Cyhoeddus (Partner GCC) am y dehonglwr arall cyn gynted â phosibl.
    8.7. Pan fo gwaith yn cael ei roi i ddirprwy, mae’r cod ymddygiad yn berthnasol i’r dehonglwr hwnnw hefyd.
    8.8. Bydd GCC yn talu’r dehonglwr a archebwyd yn wreiddiol ar gyfer y gwaith. Chi fydd yn gyfrifol am dalu’r dirprwy.
    8.9. Eich cyfrifoldeb chi (y dehonglwr) yw rheoli eich dyddiadur a threfnu eich amser yn unol â’r gwaith yr ydych wedi'i dderbyn gan GCC ac asiantaethau eraill a pheidio â derbyn gwaith os yw’r un pryd ag apwyntiad arall.

    *Ar eich traul eich hun

    9. Tâl Eilradd

    9.1. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw fath o gymhelliad na gwobr am waith dehongli, ar ffurf arian parod neu fel arall, oni bai am daliad am waith a wneir.
    9.2. Ni fyddwch yn trefnu apwyntiadau ychwanegol yn uniongyrchol gyda chleientiaid na’r Partner. Bydd pob archeb yn cael ei drefnu gyda’r Partner a GCC.

    10. Gonestrwydd ac unplygrwydd

    10.1. Er y byddwn yn archwilio’ch cefndir ar y dechrau, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn trafod unrhyw arestiadau / collfarnau neu faterion eraill all effeithio ar eich statws gyda GCC yn ystod y broses ymgeisio.
    10.2. Mae GCC yn cadw’r hawl i godi tâl ar ddehonglwyr er mwyn i’r broses archwilio angenrheidiol gael ei chwblhau.
    10.3. Gall hawliadau gormodol am amser neu gostau ychwanegol gael eu hystyried fel lladrad a rhaid i’r holl hawliadau gael eu gwirio gan gynrychiolydd y Partner ar ddiwedd y gwaith a/neu brawf pwrcasu h.y. derbynneb.
    10.4. Bydd unrhyw dystiolaeth o anonestrwydd neu ymddygiad amhriodol yn destun ymchwiliad yn unol â Pholisi Cwynion GCC.
    10.5. Os datgelir gwybodaeth i chi, cyn neu ar ôl aseinio gan y defnyddiwr gwasanaeth sydd ag unrhyw ddylanwad ar yr aseiniad, bydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i gynrychiolydd y cleient neu GCC cyn gynted â phosibl.

    11. Atebolrwydd Treth

    11.1. Cyfrifoldeb y cyfieithydd hunangyflogedig llawrydd yw rhoi gwybod i'r awdurdodau refeniw priodol am y taliadau a dderbyniwyd. Nid yw GCC yn didynnu arian at ddibenion treth.
    11.2. Ceidw GCC yr hawl i rannu manylion am daliadau a wneir gyda CThEM.

    12. Ymddygiad ar y Cyfryngau Cymdeithasol

    12.1. Ni fydd negeseuon Dehonglwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn torri rheolau cyfrinachedd neu amhleidioldeb a nodir yn y Cod Ymddygiad.
    12.2. Cynghorir bod pob gohebiaeth ynghylch gwybodaeth sensitif a drafodir yn ystod swyddi, yn parhau’n gyfrinachol, ac yn peidio â chael eu rhannu ar lwyfan gyhoeddus.
    12.3. Os yw gwybodaeth gyfrinachol eisoes ar lwyfan gyhoeddus, rhaid i ddehonglwyr fod yn ofalus i beidio â thrafod neu gadarnhau ei dilysrwydd na chyflwyno sylw ar y wybodaeth.
    12.4. Rhaid i ddehonglwyr beidio â chyflwyno gwybodaeth ar lwyfan gyhoeddus all gael ei defnyddio i ganfod natur apwyntiad claf neu’r lleoliad y mae’n derbyn y driniaeth.

    13. Cyfieithiadau

    13.1. Bydd cyfieithwyr sy’n ymgymryd â gwaith yn gwneud gwaith o fewn eu cymhwysedd ieithyddol ac arbenigol perthnasol.
    13.2. Bydd cyfieithwyr ond yn cyfieithu rhwng yr ieithoedd y gwnaethon nhw gofrestru â GCC ar eu cyfer.
    13.3. Hyd eithaf eu gallu, bydd cyfieithwyr yn creu cyfieithiad cywir o’r ffynhonnell. Mae hyn yn golygu o ran ystyr a thôn, oni bai bod angen crynodeb llythrennol.
    13.4. Os yw Cyfieithydd yn darganfod ar unrhyw adeg bod newidiadau wedi’u gwneud i destun terfynol ei d/ddogfen heb gytundeb ymlaen llaw, bydd ef neu hi’n rhoi gwybod i GCC ac ni fydd yn gyfrifol am y testun mwyach.
    13.5. Oni bai y nodir yn wahanol gan y sefydliad, gall cyfieithiadau gael eu cynnal mewn unrhyw leoliad o fewn rheswm; cyfrifoldeb y cyfieithydd yw sicrhau diogelwch a chyfrinachedd y ddogfen / dogfennau wrth gyfieithu.
    13.6. Lle gwneir gwaith cyfieithu yng nghyfeiriad sefydliad am unrhyw reswm, dylid cwblhau’r gwaith cyfieithu yn y lleoliad a gytunir gan y ddau barti ac ni ddylid symud unrhyw ddogfen heb ganiatâd ymlaen llaw a heb roi gwybod i GCC.

    14. CDL/Matrix

    14.1. CDL Matrix yw Gweinyddwr Cyflogres GCC. Wrth lofnodi’r Cod Ymddygiad i Ddehonglwyr a Chyfieithwyr rydych yn cytuno i GCC rannu eich data personol yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016 (RhDDC) gyda CDL/Matrix er mwyn iddyn nhw allu gweinyddu'r gyflogres ar gyfer y gwaith yr ydych wedi’i gyflawni. Gofynnir i chi gwblhau ffurflenni cofrestru pellach ar gyfer CDL Matrix.

    15. Torri’r Cod Ymddygiad / Cwynion

    15.1. Bydd unrhyw achos o dorri’r Cod Ymddygiad neu Gwynion a dderbynnir gan GCC yn cael ei ymchwilio yn unol â Pholisi Cwynion GCC y gellir ei weld ar ein gwefan https://www.wits.wales/cy/


    Caiff unrhyw wybodaeth a roddwch ond ei defnyddio i ddelio â’ch ymholiad a gall gael ei rhannu â Gwasanaethau Cyhoeddus eraill yn unol â’ch ymholiad a CDL Matrix sy’n gweinyddu ein cyflogres. Bydd y sail gyfreithiol sy’n ein galluogi i brosesu eich data yn amrywio yn dibynnu ar eich ymholiad, ond bydd hyn yn bennaf yn angenrheidiol er mwyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru gyflawni ei swyddogaethau swyddogol. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau diogelu data ewch i www.caerdydd.gov.uk/hysbysiadpreifatrwydd


    Dogfennau Ychwanegol

    Defnyddiwch yr adrannau isod i lanlwytho’r holl ddogfennaeth angenrheidiol.


    Llofnodion Awdurdodi a datganiad

    Mae'n rhaid fetio cyfieithwyr cofrestredig i safon GDG manylach o leiaf neu NPPV lefel 3 (Fetio Personél Heddlu Cenedlaethol Lefel 3).

    • Mae cliriad manwl ar lefel GDG yn caniatáu i'n cyfieithwyr gael eu penodi i waith Bwrdd Iechyd ac Awdurdod Lleol.
    • Mae cliriad lefel 3 NPPV yn cael ei fetio ar lefel uwch sy'n caniatáu i gyfieithwyr gael eu penodi i waith y sector cyfiawnder troseddol.

    Caiff y wybodaeth a roddir gennych ei thrin yn gyfrinachol a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 at y diben o gofrestru fel cyfieithydd llawrydd hunangyflogedig.

    Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda Matrics CDL fel ein gweinyddwr gweithwyr asiantaeth a gyda’n partneriaid, er mwyn eich rhoi mewn cysylltiad â'r rhai sy'n chwilio am weithwyr ieithyddol proffesiynol.

    Datganiad Cyfieithydd



    © Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

    Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd