English

Polisi Preifatrwydd

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru’n defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaeth.

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru’n rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy’n cael ei gasglu.  Prosesir yr holl ddata personol yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Pynciau:

  • Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?
  • Sut rydym yn casglu eich data?
  • Sut byddwn yn defnyddio eich data?
  • Sut rydym yn storio eich data?
  • Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data?
  • Marchnata
  • Beth yw eich hawliau diogelu data?
  • Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
  • Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
  • Sut i gysylltu â ni
  • Sut i gysylltu â’r awdurdodau priodol

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru’n casglu’r data canlynol:

Dehonglwyr/Cyfieithwyr

  • Gwybodaeth adnabod bersonol (enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati)
  • Rhywedd
  • Hawl i Weithio
  • Dyddiad Geni
  • Hil/Tarddiad Ethnig
  • Cenedligrwydd
  • Cymwysterau
  • Iaith/Ieithoedd

Cleientiaid

  • Gwybodaeth adnabod bersonol (enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati)
  • Enw’r Cwmni a’r Adran
  • Enw’r Claf
  • Rhif GIG y Claf
  • Testun yr Apwyntiad
  • Dehonglydd a ffefrir
  • Rhif Trosedd/Digwyddiad
  • Testun y Trosedd

 

Caiff hyn ei gasglu at y diben o fod yn ddehonglydd neu’n gyfieithydd unig fasnachwr hunangyflogedig a/neu fod yn gleient gyda Gwasanaeth Cyfieithu Cymru.

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych chi’n darparu’n uniongyrchol i Wasanaeth Cyfieithu y rhan fwyaf o’r data rydyn ni’n ei gasglu. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn gwneud y canlynol:

  • Cofrestru ar-lein neu archebu unrhyw un o’n cynhyrchion neu ein gwasanaethau.
  • Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu roi adborth ar unrhyw un o’n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.
  • Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.

Efallai y bydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru hefyd yn derbyn eich data yn anuniongyrchol o’r ffynonellau canlynol:

  • GIG
  • Heddluoedd
  • Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithas Dai
  • Cyrff Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn casglu eich data fel y gallwn:

  • Brosesu eich archeb a rheoli eich cyfrif.
  • E-bostio cynigion arbennig atoch am gynhyrchion a gwasanaethau eraill rydym yn credu y gallech chi eu hoffi.
  • Cynnig aseiniadau Dehongli a/neu Gyfieithu i chi

Os ydych chi’n cytuno, bydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn rhannu eich data â’n cwmnïau partner fel y gallant gynnig eu cynhyrchion a’u gwasanaethau i chi.

Cynghorau

  • Blaenau Gwent
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • ALl Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • CBS Torfaen
  • Bro Morgannwg

Byrddau Iechyd

  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr
  • Caerdydd a’r Fro
  • Cwm Taf
  • Hywel Dda
  • BIA Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Bae Abertawe
  • Ymddiriedolaeth Felindre
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Sector Cyfiawnder Troseddol

  • Heddlu Dyfed Powys
  • Heddlu Gwent
  • Heddlu De Cymru
  • Heddlu De Cymru

Cymru Gyfan

  • Archwilio Cymru
  • Cymwysterau Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • CLlL Cymru

Cymdeithas Dai

  • Cartrefi Cymunedol Bron Afon
    Melin Homes

Cyflenwyr

  • Matrics

Pan fydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn prosesu eich archeb, gall anfon eich data at asiantaethau cyfeirio credyd a hefyd ddefnyddio’r wybodaeth sy’n dod i lawn yn sgil hyn er mwyn atal pryniannau twyllodrus.

Sut rydym yn storio eich data?

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn storio’ch data yn ddiogel ar becynnau meddalwedd diogel sy’n cael eu cadw yn Adran TGCh Cyngor Caerdydd lle mae polisïau a phrosesau ar waith i sicrhau bod eich data yn cael ei gadw’n ddiogel.

Bydd Gwasanaeth Cyfieithwyr Cymru yn cadw eich data Dehonglydd/Cyfieithydd cyhyd â’ch bod wedi’ch cofrestru gyda ni. Os nad yw dehonglwyr neu gyfieithwyr wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Cyfieithu Cymru bellach, archifir data am 7 mlynedd yn unol â chanllawiau cadw ariannol. Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data trwy Bolisïau Dileu’r Adran TGCH.

Bydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn cadw eich ceisiadau am Ddehonglydd/Cyfieithydd gan gleientiaid am 12 mis. Caiff y data ei archifo am 7 mlynedd yn unol â chanllawiau cadw ariannol. Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data trwy Bolisïau Dileu’r Adran TGCH.

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y sail gyfreithlon rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’r wybodaeth hon yw:

Erthygl 6 (e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data categori arbennig yw:

Erthygl 9(1)(g) – Rhesymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Marchnata

Hoffai Gwasanaeth Cyfieithu Cymru anfon gwybodaeth atoch am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, yn ogystal â rhai ein cwmnïau partner, yr ydym yn credu y gallech chi eu hoffi.

Cynghorau

  • Blaenau Gwent
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • ALl Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • CBS Torfaen
  • Bro Morgannwg

Byrddau Iechyd

  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr
  • Caerdydd a’r Fro
  • Cwm Taf
  • Hywel Dda
  • BIA Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Bae Abertawe
  • Ymddiriedolaeth Felindre
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Sector Cyfiawnder Troseddol

  • Heddlu Dyfed Powys
  • Heddlu Gwent
  • Heddlu De Cymru
  • Heddlu De Cymru

Cymru Gyfan

  • Archwilio Cymru
  • Cymwysterau Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • CLlL Cymru

Cymdeithas Dai

  • Cartrefi Cymunedol Bron Afon
    Melin Homes

Cyflenwyr

  • Matrics

Os ydych wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata, gallwch bob amser ddewis peidio â’i derbyn yn ddiweddarach.

Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i atal Gwasanaeth Cyfieithu Cymru rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata neu roi eich data i aelodau eraill o grŵp Ein Cwmni.

Os nad ydych am i ni gysylltu â chi mwyach at ddibenion marchnata, Cysylltwch â ni.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai’r Gwasanaeth Cyfieithu Cymru wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru am gopïau o’ch data personol.

Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru gywiro unrhyw wybodaeth sydd, yn eich barn chi, yn anghywir. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru gwblhau’r wybodaeth sydd, yn eich barn chi, yn anghyflawn.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i Wasanaeth Cyfieithu Cymru brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gwmni Gwasanaeth Cyfieithu Cymru drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.  Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost:wits@cardiff.gov.uk

Call us at: 02920 537555

Or write to us: The Wales Interpretation and Translation Service, County Hall, Atlantic Wharf Cardiff, CF104UW

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Gwasanaeth Cyfieithu Cymru cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch chi’n clicio ar ddolen i wefan arall, dylech chi ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Gwasanaeth Cyfieithu Cymru adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis 9 Tachwedd 2023.

Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru neu’r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol

Os hoffech gwyno neu os teimlwch nad yw Gwasanaeth Cyfieithu Cymru wedi ymateb i’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.

© Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd