English

Hyfforddiant

Hyfforddiant

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (WITS) yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ledled Cymru, gan ddod o hyd i ddehonglwyr a chyfieithwyr i’w cefnogi i ddarparu gwasanaethau i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Mae gan Gymru boblogaeth amrywiol ac wrth i’r sector cyhoeddus esblygu i anghenion a deinamig newidiol ei ddinasyddion, mae’n hanfodol ein bod yn addasu i ateb y galw.

Y nod yw gwella hyfedredd a phan fydd swyddogion y sector cyhoeddus a dehonglwyr/cyfieithwyr yn gweithio gyda’i gilydd, yn y cymunedau amrywiol sydd ohoni, mae cyfathrebu clir a chywir yn hanfodol. Nod yr hyfforddiant hwn yw eich arfogi â sgiliau a dealltwriaeth i gydweithio’n ddi-dor gyda’ch gilydd, gan sicrhau y gall pawb gyrchu’r gwasanaethau a’r wybodaeth angenrheidiol.

P’un a ydych chi’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol, swyddog yr Heddlu, gweithiwr cymdeithasol neu’n gweithio mewn unrhyw rôl yn y sector cyhoeddus, bydd ein e-fodiwlau yn rhoi dealltwriaeth i chi o weithio gyda dehonglwyr a chyfieithwyr.

Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau ‘Gweithio gyda chyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd yn y sector cyhoeddus yn gyntaf gan y bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth i chi o weithio gyda WITS a dehonglwyr/cyfieithwyr.

Mae WITS yn datblygu cyfres o fodiwlau e-ddysgu a fydd ar gael maes o law, mewn meysydd penodol sy’n ymwneud â:

  • Gweithio gyda Dehonglwyr a Chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain
  • Gweithio gyda dehonglwyr a chyfieithwyr yr Heddlu
  • Gweithio gyda dehonglwyr a chyfieithwyr ym maes Iechyd ac Awdurdodau Lleol

© Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd