Gwasanaeth Dehongli a ChyfieithuYn cynnig dehonglwyr a chyfieithwyr proffesiynol i’r sector cyhoeddus
Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu
Pwy yw WITS?
Mae’r Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu (WITS) yn dod o hyd i ac yn dyrannu dehonglwyr a chyfieithwyr proffesiynol i weithio yn y sector cyhoeddus.
I ddechrau, roeddem yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Sir Caerdydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ond erbyn hyn rydym yn cyflenwi gweithwyr proffesiynol ym maes ieithoedd i dros 30 o gleientiaid yn y sector cyhoeddus.
“Pob blwyddyn, mae WITS yn derbyn dros 30,000 cais am ddehongliad neu gyfieithiad gan weithiwyr proffesiynol y Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru”
Ein Gwasanaethau
Mae WITS yn cynnig gwasanaethau dehongli wyneb yn wyneb i gyrff y Sector Cyhoeddus ledled Cymru. Rydym yn sicrhau bod cyfathrebu â chwsmer neu ddefnyddiwr gwasanaeth yn syml ac yn broffesiynol. Mae ein gwasanaethau’n cefnogi pobl nad oes ganddynt afael da iawn ar y Saesneg er mwyn defnyddio Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhwydd. O drafod cydsyniad ac egluro ôl-ofal ar gyfer llawdriniaethau, i gynnal cyfweliadau gyda rhywun a ddrwgdybir, WITS yw prif gyflenwr ieithyddol y rhan fwyaf o gyrff Sector Cyhoeddus Cymru.
Gwneud Cais am Ddehonglwr
Os oes angen gwasanaethau dehonglwr arnoch ar fyr rybudd, ffoniwch 02920 537 555, ac yna dewiswch opsiwn 1.
Ar gyfer pob math arall o gais am ddehonglwr, cysylltwch â ni, a bydd aelod o’r tîm yn ateb cyn gynted â phosibl.
Ieithoedd a ddarperir
Mae WITS yn cynnig ystod eang o wasanaethau iaith a chyfieithu i’w holl bartneriaid.
Gyda thros 80 o ieithoedd ar gael o’r mwyaf cyffredin i’r prinnaf, mae gennym yr adnoddau i gynnig gwasanaethau i ateb pob angen.
Yr ieithoedd y gofynnir amdanynt amlaf yw:
Arabeg عربى
Pwyleg Polski
Lithwaneg Lietuviškai
Tsieceg čeština
Mandarin 汉语
Cantonese 粵語
Wrdw اردو
Bengali বাঙালি
Rwmaneg
BSL
Ein ffioedd
Mae ein cyfraddau’n amrywio’n dibynnu ar ddyddiad yr apwyntiad ac yn ystod yr apwyntiad. Mae hefyd gyfraddau gwahanol yn dibynnu ar gymwysterau gwahanol y dehonglydd h.y. wedi’i hyfforddi’n lleol neu â Diploma mewn Dehongli i’r Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI).
Os hoffech drafod ein cyfraddau’n fanylach cysylltwch â ni.
Cofrestru gyda Gwasanaeth Cyfieithu Cymru
Ystyrir ceisiadau cofrestru ar sail nifer o feini prawf, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Ieithoedd sy’n cael eu siarad
Lleoliad presennol
Profiad blaenorol
Cymwysterau perthnasol
Eich argaeledd
Byddem yn tybio bob tro bod gan yr ymgeisydd afael da ar y Saesneg, oherwydd hon fydd un ai iaith darged neu iaith ffynhonnell unrhyw aseiniad.
Os ydych yn credu eich bod yn bwrw’r meini prawf neu os oes gennych fwy o gwestiynau am y broses ymgeisio, cysylltwch â ni.
Annwyl Gyfieithydd,
Diolch am eich diddordeb mewn bod yn gyfieithydd llawrydd. Mae GCC yn bartneriaeth rhwng mwy na 30 o gyrff sector cyhoeddus ledled Cymru. Fel cyfieithydd llawrydd cewch y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau gan gynnwys gydag Awdurdodau Lleol, y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu.
Drwy gofrestru fel hyn, byddwch yn cofrestru gyda Matrix CDL Ltd, ein gweinyddwr gweithwyr asiantaeth, sy’n trefnu i dalu am yr aseiniadau a gwblhawyd ar gyfer ein holl gyfieithwyr llawrydd a fetio diogelwch hyd at ddatgeliad manylach y gwasanaeth datgelu a gwahardd.
Ni all GCC warantu nifer penodol o aseiniadau neu nifer yr oriau am unrhyw gyfnod. Mae swm yr aseiniadau’n dibynnu ar nifer o ffactorau, er enghraifft ond heb fod yn gyfyngedig i:
Y galw
Eich argaeledd
Meini prawf yr aseiniad
Cysylltir â chi pan fydd angen eich gwasanaethau.
Cyfrifoldeb y cyfieithydd hunangyflogedig llawrydd yw rhoi gwybod i’r awdurdodau refeniw priodol am y taliadau a dderbyniwyd. Nid yw GCC yn didynnu arian at ddibenion treth.
Os ydych am gofrestru fel cyfieithydd llawrydd hunangyflogedig, llenwch y ffurflen gofrestru isod.
Cofion gorau,
Tîm GCC
Digwyddiadau
Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn bwriadu cynnal dau weithdy ymgysylltu ar gyfer Pobl Fyddar. Mae croeso i chi ymuno â ni un ai:Bore
Dydd Iau 8 Mawrth 9:30-11:30 yng Nghlwb y Byddar Wrecsam, Canolfan Victoria Wrecsam, 13 Hill Street, Wrecsam, Clwyd, LL11 1SN
neu
Dydd Iau 8 Mawrth 13:00-15:00 yng Nghanolfan Sign-Sight -Sound, 77 Conway Road, Bae Colwyn, Conwy LL29 7LN
Nod y gweithdy yw:
Cwrdd â chi fel y gallwch rannu eich profiadau â ni
Cydweithio â chi fel y gallwn ddatblygu a gwella ein gwasanaeth
Os hoffech fod yn bresennol, cwblhewch y ffurflen ‘cysylltu â ni’
MAE DEHONGLWYR IAITH ARWYDDION PRYDAIN WEDI’U TREFNU AR GYFER Y DDAU WEITHDY
Bydd lluniaeth ar gael yn y ddau ddigwyddiad.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion dietegol penodol.
Canllawiau Arfer Da
Efallai yr hoffech weld ein Canllawiau Arfer Da ar Ddehongli a Chyfieithu.
Cliciwch ar y ddogfen bert hnasol i lawrlwytho’r canllaw a hoffech