Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu
Yn cynnig dehonglwyr a chyfieithwyr proffesiynol i’r sector cyhoeddus
Yn cynnig dehonglwyr a chyfieithwyr proffesiynol i’r sector cyhoeddus
Agorodd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (WITS) yn 2009 yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. I ddechrau, roedd WITS yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Heddlu Gwent, Cyngor Sir Caerdydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ond erbyn hyn ni yw prif gyflenwr gweithwyr proffesiynol ieithoedd i dros 30 o gleientiaid yn y sector cyhoeddus.
Mae WITS yn cyrchu cyfieithwyr proffesiynol i’r sector cyhoeddus ledled Cymru mewn dros 150 o ieithoedd gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain.
Mae WITS yn sefydliad dielw sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r sector cyhoeddus i gefnogi aelodau o’r cyhoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg / Saesneg fel eu hiaith cyntaf i gael gafael ar wasanaethau. Mae WITS wedi tyfu i drin tua 40,000 o geisiadau bob blwyddyn ar gyfer cymorth dehongli a chyfieithu gan weithio gyda dros 700 o gyfieithwyr hunan-gyflogedig cofrestredig drwy Gymru a’r DU.
Ers dros 10 mlynedd mae WITS wedi darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, sy’n cael eu gyrru’n foesegol i’w holl gwsmeriaid, ac mae’n parhau i weithio’n agos gyda chleientiaid i ddatblygu’r gwasanaeth.
Mae WITS yn darparu ystod lawn o gymorth iaith:
“Pob blwyddyn, mae WITS yn derbyn dros 30,000 cais am ddehongliad neu gyfieithiad gan weithiwyr proffesiynol y Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru”
Rydym yn darparu Gwasanaeth cyfieithu cynhwysfawr, yn gorchuddio ystod eang o gynnwys. Rydym yn wastad ymgymered cyfieithu ysgrifennid am;
Rydym yn hefyd darparu’r gwasanaethau cyfieithu chwanegol isod:
Mae pob cyfieithydd yn gweithio ar ran WITS yn cael ei fetio i isafswm o GDG Manwl ac yn cael cymhwyster lleiaf o feistri mewn cyfieithu. Rydym yn gallu darparu cyfieithu dros 120 ieithoedd, o’r ieithoedd a ddefnyddir yn eang, i’r prinnaf.
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau cyfieithu cysylltwch â ni.
Os oes angen gwasanaethau dehonglwr arnoch ar fyr rybudd, ffoniwch 02920 537 555, ac yna dewiswch opsiwn 1.
Ar gyfer pob math arall o gais am ddehonglwr, cysylltwch â ni, a bydd aelod o’r tîm yn ateb cyn gynted â phosibl.
Mae ein cyfraddau’n amrywio’n dibynnu ar ddyddiad yr apwyntiad ac yn ystod yr apwyntiad. Mae hefyd gyfraddau gwahanol yn dibynnu ar gymwysterau gwahanol y dehonglydd h.y. wedi’i hyfforddi’n lleol neu â Diploma mewn Dehongli i’r Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI).
Os hoffech drafod ein cyfraddau’n fanylach cysylltwch â ni.
Gall WITS ddod o hyd i gyfieithwyr o ystod eang o ieithoedd yn amrywio o ieithoedd cyffredin i rai llai, ac mae gennym yr adnoddau i ddarparu ieithoedd sy’n addas i bob angen.
Yr ieithoedd y gofynnir amdanynt fwyaf yw:
Efallai yr hoffech weld ein Canllawiau Arfer Da ar Ddehongli a Chyfieithu.
Cliciwch ar y ddogfen bert hnasol i lawrlwytho’r canllaw a hoffech
© Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd 2023
Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Hygyrchedd