English

Polisi Preifatrwydd

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru’n defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaeth.

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru’n rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy’n cael ei gasglu.  Prosesir yr holl ddata personol yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Pynciau:

  • Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?
  • Sut rydym yn casglu eich data?
  • Sut byddwn yn defnyddio eich data?
  • Sut rydym yn storio eich data?
  • Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data?
  • Marchnata
  • Beth yw eich hawliau diogelu data?
  • Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
  • Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
  • Sut i gysylltu â ni
  • Sut i gysylltu â’r awdurdodau priodol

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru’n casglu’r data canlynol:

Dehonglwyr/Cyfieithwyr

  • Gwybodaeth adnabod bersonol (enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati)
  • Copïau o ddogfennau adnabod personol (trwydded yrru, pasbort, prawf cyfeiriad ac ati)
  • Rhywedd
  • Hawliau i weithio
  • Dyddiad geni
  • Hil/Tarddiad Ethnig
  • Cenedligrwydd
  • Cymwysterau
  • Iaith/Ieithoedd
  • Rhif Yswiriant Gwladol (Dibenion fetio diogelwch yn unig)

Cleientiaid

  • Gwybodaeth adnabod bersonol (enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati)
  • Enw’r Cwmni a’r Adran
  • Enw’r Claf
  • Rhif GIG y Claf
  • Pwnc yr apwyntiad
  • Dehonglydd a ffefrir
  • Rhif y trosedd/digwyddiad
  • Pwnc y trosedd

Caiff hyn ei gasglu at y diben o fod yn ddehonglydd neu’n gyfieithydd unig fasnachwr hunangyflogedig a/neu fod yn gleient gyda Gwasanaeth Cyfieithu Cymru.

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych chi’n darparu’n uniongyrchol i Wasanaeth Cyfieithu y rhan fwyaf o’r data rydyn ni’n ei gasglu. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn gwneud y canlynol:

  • Cofrestru ar-lein neu archebu unrhyw un o’n cynhyrchion neu ein gwasanaethau.
  • Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu roi adborth ar unrhyw un o’n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.
  • Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.

Efallai y bydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru hefyd yn derbyn eich data yn anuniongyrchol o’r ffynonellau canlynol:

  • Y GIG
  • Heddluoedd
  • Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithas Dai
  • Cyrff Llywodraeth Cymru
  • Cyflenwr fetio (Heddlu Swydd Warwick a/neu CDL Matrix)

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn casglu eich data fel y gallwn:

  • Brosesu eich archeb a rheoli eich cyfrif.
  • E-bostio cynigion arbennig atoch am gynhyrchion a gwasanaethau eraill yr ydym yn credu a allai fod o ddiddordeb i chi.
  • Cynnig aseiniadau Dehongli a/neu Gyfieithu i chi
  • Hwyluso fetio diogelwch i alluogi cynnig aseiniadau Dehongli a/neu Gyfieithu
  • Talu am aseiniadau Dehongli a/neu Gyfieithu a gwblhawyd
  • Ymgymryd â geirdaon dehonglwyr ar gymeradwyaeth/cais dehonglwyr/cyfieithwyr
  • Cynnig Sesiynau Cymorth Ymarfer Myfyriol

Os ydych chi’n cytuno, bydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn rhannu eich data â’n cwmnïau partner fel y gallant gynnig eu cynhyrchion a’u gwasanaethau i chi.

Cynghorau

  • Blaenau Gwent
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • ALl Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • CBS Torfaen
  • Bro Morgannwg

Byrddau Iechyd

  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr
  • Caerdydd a’r Fro
  • Cwm Taf
  • Hywel Dda
  • BIA Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Bae Abertawe
  • Ymddiriedolaeth Felindre
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Sector Cyfiawnder Troseddol

  • Heddlu Dyfed Powys
  • Heddlu Gwent
  • Heddlu De Cymru
  • Heddlu De Cymru

Cymru Gyfan

  • Archwilio Cymru
  • Cymwysterau Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Cafcass Cymru
  • CLlL Cymru
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Cymdeithas Dai

  • Cartrefi Cymunedol Bron Afon
  • Cartrefi Melin
  • Grŵp Tai Cadarn
  • Cartrefi Conwy

Cyflenwyr

  • Matrix/CDL
  • Heddlu Swydd Warwick
  • Llinell Iaith
  • Y Gair Mawr
  • DALS

Pan fydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn prosesu eich archeb, gall anfon eich data at asiantaethau gwirio credyd a hefyd ddefnyddio’r wybodaeth sy’n dod i law yn sgil hyn er mwyn atal pryniannau twyllodrus.

Sut rydym yn storio eich data?

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn storio’ch data yn ddiogel ar becynnau meddalwedd diogel sy’n cael eu cadw yn Adran TGCh Cyngor Caerdydd lle mae polisïau a phrosesau ar waith i sicrhau bod eich data yn cael ei gadw’n ddiogel.

Bydd Gwasanaeth Cyfieithwyr Cymru yn cadw eich data Dehonglydd/Cyfieithydd cyhyd â’ch bod wedi’ch cofrestru gyda ni. Os nad yw dehonglwyr neu gyfieithwyr wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Cyfieithu Cymru bellach, archifir data am 7 mlynedd yn unol â chanllawiau cadw ariannol. Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data trwy Bolisïau Dileu’r Adran TGCH.

Bydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn cadw eich ceisiadau am Ddehonglydd/Cyfieithydd gan gleientiaid am 12 mis. Caiff y data ei archifo am 7 mlynedd yn unol â chanllawiau cadw ariannol. Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data trwy Bolisïau Dileu’r Adran TGCH.

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y sail gyfreithlon rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’r wybodaeth hon yw:

Erthygl 6 (e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data categori arbennig yw:

Erthygl 9(1)(g) – Rhesymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Marchnata

Hoffai Gwasanaeth Cyfieithu Cymru anfon gwybodaeth atoch am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, yn ogystal â rhai ein cwmnïau partner, yr ydym yn credu a allai fod o ddiddordeb i chi.

Cynghorau

  • Blaenau Gwent
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • ALl Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • CBS Torfaen
  • Bro Morgannwg

Byrddau Iechyd

  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr
  • Caerdydd a’r Fro
  • Cwm Taf
  • Hywel Dda
  • BIA Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Bae Abertawe
  • Ymddiriedolaeth Felindre
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Sector Cyfiawnder Troseddol

  • Heddlu Dyfed Powys
  • Heddlu Gwent
  • Heddlu De Cymru
  • Heddlu De Cymru

Cymru Gyfan

  • Archwilio Cymru
  • Cymwysterau Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Cafcass Cymru
  • CLlL Cymru
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Cymdeithas Dai

  • Cartrefi Cymunedol Bron Afon
  • Cartrefi Melin
  • Grŵp Tai Cadarn
  • Cartrefi Conwy

Cyflenwyr

  • Matrix/CDL
  • Heddlu Swydd Warwick
  • Llinell Iaith
  • Y Gair Mawr
  • DALs

Os ydych wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata, gallwch bob amser ddewis peidio â’i derbyn yn ddiweddarach.

Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i atal Gwasanaeth Cyfieithu Cymru rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata neu roi eich data i aelodau eraill o grŵp Ein Cwmni.

Os nad ydych am i ni gysylltu â chi mwyach at ddibenion marchnata, Cysylltwch â ni.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai’r Gwasanaeth Cyfieithu Cymru wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru am gopïau o’ch data personol.

Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru gywiro unrhyw wybodaeth sydd, yn eich barn chi, yn anghywir. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru gwblhau’r wybodaeth sydd, yn eich barn chi, yn anghyflawn.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaeth Cyfieithu Cymru gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i Wasanaeth Cyfieithu Cymru brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gwmni Gwasanaeth Cyfieithu Cymru drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.  Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost:wits@cardiff.gov.uk

Call us at: 02920 537555

Or write to us: The Wales Interpretation and Translation Service, County Hall, Atlantic Wharf Cardiff, CF104UW

Cwcis

Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae’n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.

Sut rydym yn defnyddio cwcis?

Mae Ein Cwmni yn defnyddio cwcis mewn amrywiaeth o ffyrdd i wella’ch profiad ar ein gwefan, gan gynnwys:

  • Eich cadw wedi’ch mewngofnodi
  • Deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan

Pa fathau o gwcis rydym yn eu defnyddio?

Mae nifer o wahanol fathau o gwcis, fodd bynnag, mae ein gwefan yn defnyddio:

  • Ymarferoldeb – Mae Ein Cwmni yn defnyddio’r cwcis hyn fel ein bod yn eich adnabod ar ein gwefan ac yn cofio’r hyn a ddewiswyd gennych yn flaenorol. Gallai hyn gynnwys eich dewis iaith a’ch lleoliad. Defnyddir cymysgedd o gwcis parti cyntaf a thrydydd parti.
  • Hysbysebu – Mae Ein Cwmni yn defnyddio’r cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am eich defnydd o’n gwefan, y cynnwys yr edrychoch arno, y dolenni a ddilynwyd gennych a gwybodaeth am eich porwr, eich dyfais, a’ch cyfeiriad IP. Mae Ein Cwmni weithiau’n rhannu rhai agweddau cyfyngedig ar y data hwn â thrydydd partïon at ddibenion hysbysebu. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data ar-lein a gesglir drwy gwcis gyda’n partneriaid hysbysebu. Mae hyn yn golygu y gallwch weld hysbysebion wrth ymweld â gwefan arall yn seiliedig ar eich patrymau pori ar ein gwefan ni.

Sut i reoli cwcis

Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae’r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o’ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae’n bosib na fydd rhai o nodweddion y wefan yn gweithio o ganlyniad i hynny.

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen ei pholisi preifatrwydd hi.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Gwasanaeth Cyfieithu Cymru adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis 18 Tachwedd 2025.

Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru neu’r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol

Os hoffech gwyno neu os teimlwch nad yw Gwasanaeth Cyfieithu Cymru wedi ymateb i’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.

Top

© Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd 2023

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Hygyrchedd