English

E-ddysgu Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid i Ddehonglwyr Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (GCC)

Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn darparu dealltwriaeth o daith y cwsmer  ac yn rhoi i ddehonglwyr y sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid hanfodol sydd eu hangen i ddarparu cymorth proffesiynol, parchus ac effeithiol ar draws pob lleoliad gwasanaeth cyhoeddus.

Bydd cyfranogwyr yn archwilio egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan gynnwys ymddygiad cyfathrebu safonol, rheoli rhyngweithiadau heriol a chynnal didueddrwydd wrth gefnogi defnyddwyr gwasanaeth.

Bydd y cwrs e-Ddysgu hwn yn darparu arweiniad am:

  • Gyfathrebu’n glir ac yn barchus
  • Ymdrin â sefyllfaoedd heriol gyda hyder a gofal
  • Cynnal gwerthoedd GCC o ddidueddrwydd, hygyrchedd a sensitifrwydd diwylliannol
  • Cydweithio’n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth a staff rheng flaen

Mae’r hyfforddiant hwn yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus dehonglwyr ac yn cyfrannu at ymrwymiad GCC i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn cymryd tua 45 munud i’w gwblhau.


    [group justiceorg]

    [/group]

    [group governmentorg]

    [/group]

    [group healthorg]

    [/group]

    [group localorg]

    [/group]
    [group otherorg]

    [/group]

    [group notregistered]Mae WITS yn croesawu ceisiadau cofrestru newydd gan gyfieithwyr unrhyw iaith ac yn gallu eich helpu drwy’r broses gofrestru a’r safonau fetio gofynnol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.[/group]

    Top

    © Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd 2023

    Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Hygyrchedd