Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn darparu dealltwriaeth o daith y cwsmer ac yn rhoi i ddehonglwyr y sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid hanfodol sydd eu hangen i ddarparu cymorth proffesiynol, parchus ac effeithiol ar draws pob lleoliad gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd cyfranogwyr yn archwilio egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan gynnwys ymddygiad cyfathrebu safonol, rheoli rhyngweithiadau heriol a chynnal didueddrwydd wrth gefnogi defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd y cwrs e-Ddysgu hwn yn darparu arweiniad am:
- Gyfathrebu’n glir ac yn barchus
- Ymdrin â sefyllfaoedd heriol gyda hyder a gofal
- Cynnal gwerthoedd GCC o ddidueddrwydd, hygyrchedd a sensitifrwydd diwylliannol
- Cydweithio’n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth a staff rheng flaen
Mae’r hyfforddiant hwn yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus dehonglwyr ac yn cyfrannu at ymrwymiad GCC i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn cymryd tua 45 munud i’w gwblhau.