Mae cwblhau’r e-ddysgu hwn creu gan Llywodraeth Cymru yn bodloni gofynion grŵp 1 y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Argymhellir yn gryf bod pob cyfieithydd yn cwblhau’r hyfforddiant hwn, sydd wedi’i anelu at bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd yr hyfforddiant yn darparu:
- Dealltwriaeth sylfaenol o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- Sut i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
- Y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr.